Dmitri Hrapof
Y Gymraeg yw fy hoff iaith estron, ac mae Common Lisp yn fy hoff iaith gyfrifiaduron. Wrth i fi gael fwy a fwy o wybodaeth amdanyn nhw, dw i'n teimlo bod y dau yn debyg iawn i'u gilydd.
Er enghraifft, mae'r Gymraeg yn un o'r ieithoedd hynaf Ewrop, a'r iaith gyfrifiaduron hynaf (heb cyfrif FORTRAN) sy'n cael ei defnyddio erbyn hyn ydy Common Lisp. Deilliodd Cymraeg o'r hen iaith Geltaidd, a mae enw eithaf Celtaidd gyda John (dylwn i dweud Sean?) McCarthy sy'n tad Common Lisp. Cysylltir Lisp yn traddodiadol â deallusrwydd artiffisial, ac roedd gan Eliza, un o'r rhaglenni AI arwyddocaol cyntaf, sgript Cymraeg. Mae rhai geiriau 'Cymraeg' mewn Lisp: car, cadr, ond dw'n golygu gallodd Eliza 'siarad' Cymraeg. Efallai roedd hi'n bosib i ymarfer yr iaith gyda Eliza yn y chwedegau, ond dw i'n siwr bod Cymry cyfoes yn dal i fedru Lisp: pan oeddwn i yn Nant Gwrtheyrn, trafodais i Lisp (ymhlith pethau cyfrifiadurol eraill) yng Nghymraeg gyda un o'r cyd-ddysgwyr.
Fel y Gymraeg, mae Lisp yn edrych ym aml yn hyll ac rhyfedd yn y dechrau oherwydd, o ran fwyaf, ei chystrawen ac horgraff (neu prinder cystrawen). Ond mae pobl sy'n gwybod yr un iaith neu'r llall yn honni bod nhw'n brydferth a rhesymegol. Dw i, fel llawer o bobl doethach na fi, yn meddwl mai'r iaith orau a hollalluog yw Lisp. Iaith y nefoedd, yn wir.
I sôn am gystrawen, mae iaith sy'n deillio o'r Lisp ond gyda cystrawen mwy arferol, ac Dylan (Eil Ton) ydy enw'r iaith. Mae'r teulu yn fawr: fel Scheme, chwaer-iaith Lisp, mae Llydaweg yn debyg ac yn wahanol ar yr un pryd. O'r safbwynt Llydaweg, gallai Cymraeg, gyda ei 'th', 'll' a 'dd', bod yn fath o 'lisp'. Gyda llaw, mae λ, arwydd Lisp a Scheme, yn aml yn cael ei defnyddio i nodi sain 'll'.
Rhagor o gyd-ddigwyddiadau: os googlewch chi am 'CFFI', cewch chi 'Common Foreign Function Interface' (ar gyfer Lisp) a 'Clybiau Ffermwyr Ifanc' (ar gyfer Cymru).
Roedden nhw yn ieithoedd poblogaidd iawn yn y gorffennol. Mae llenyddiaeth fawr mewn Gymraeg a llawer o raglenni pwysig mewn Common Lisp. Hyd yn oed os nad ydych chi'n raglenwr neu Cymro neu ieithydd, gallwch chi manteisio o ddysgu Cymraeg â Lisp: yn ôl Alan J. Perlis, 'A language that doesn't affect the way you think about programming, is not worth knowing'.
Er iddyn nhw fod yn ieithoedd lleiafrifol ar hyn o bryd, mae nifer defnyddwyr y ddwy iaith yn cynyddu yn raddol nawr. Mae'r Rhyngrwyd a Meddalwedd Rhydd (cafodd Linux, OpenOffice a porwr we Firefox eu cyfieithu i Gymraeg) yn chwarae rhan fawr yn y tyfiant hwn.
A thebygrwyd arall: credir gan rhai ei bod hi'n galed neu amhosib ddefnyddio Cymraeg neu Lisp mewn gwaithle. Wn i ddim. Fe creais i gyfle i fi ddefnyddio Lisp yn fy ngwaithle fy hun.