Andrzej Sapkowski
Cyfieithwyd gan Dmitri Hrapof
— Ουβαγα — chwythodd Cairbre wrth pwyso oddi allan i gangen y goeden a wyliai'r ffordd arni. — Ξηλοβηκ ιεδη πο δροδζε!
Cododd Toruviel o'r ddaear wrth gafael yng nghleddyf, prociodd â blaen ei hesgid hi ym morddwyd Yaevinn a gysgai gerllaw wedi pwyso yn erbyn wal bwll. Neidiodd y milwr Tylwyth Teg i fyny a chwythodd wedi ymlosgi gyda tywod poeth y pwysodd yn ei erbyn â chledr ei law.
— Τσο ιεστ?
— Marchog ar y ffordd.
— Un? — cododd Yaevinn gawell a bwa. — Cairbre? Yn unig?
— Un. Mae o'n agosáu.
— Felly gwnawn ag o. Un o Ψια κρευ yn llai.
— Tawela! — gafaelodd Toruviel wrth ei lawes o. — Be sydd i ni? Roedd rhaid i ni ragchwilio a wedyn uno â'r corfflu. Oes rhaid lladd sifiliaid ar ffyrdd? Ydy rhyfel dros ryddid yn edrych felly?
— Felly, yn wir. Tyrd yn ôl.
— Os arhosith celain ar y ffordd, seinith pob cylchrawd rybudd. Dechreuith y byddyn ein hela ni. Amgá'r rhydiau, gallwn cael trafferthion wrth croesi'r afon!
— Eir yn anaml ar hyd y ffordd'ma. Cyn i'r celain gael ei ddarganfod, byddwn yn bell yn barod.
— Mae'r marchog yn bell yn barod hefyd — ebe Cairbre o'r goeden. — Yn lle siarad, roedd rhaid saethu. Nawr ni'w estynni o chwaith. Mae hi'n ddau gant cam, o leiaf.
— O fy mwa trigain pwys? — mwythodd Yaevinn y bwa. — Gyda ffliwt deg modfedd ar ugain? A hefyd dydy hi ddim yn ddau gant cam. Mae hi'n gant a hanner. Πατρι, ιακ γο ζαστρηλυ.
— Yeavinn, gad…
— Ζαμκνι ση, Toruviel.
Trodd y milwr Tylwyth Teg ei gap o er mwyn i gynffon wiwer gwnïedig arno beidio â'i rwystro, tynnodd y bwa yn gyflym ac yn gryf, at ei glust o, anelodd yn ofalus a gollyngodd y tant.